Hidlo – Cyfeirio at Gamsyniadau

14 Jul 2014 UK SIC

Yn dilyn dymuniad y Prif Weinidog bod “hidlyddion cyfeillgar i deuluoedd yn cael eu rhoi ar draws rhwydweithiau Wi-Fi cyhoeddus” (Cameron, 2013), mae’n dda gweld darparwyr Wi-Fi cyhoeddus yn ymateb er mwyn cadw ein defnyddwyr iau yn fwy diogel ar-lein. Hefyd, mae’n dda bod y darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd mawr bellach yn cynnig teclynnau rheoli rhieniol am ddim sydd yn gweithio gyda phob dyfais yn y cartref (gweler ein canllawiau fideo am sut i osod y rhain). Mewn sefydliadau addysgiadol, mae’n rhaid i bobl broffesiynol ystyried eu dyletswydd gofal i’r bobl ifanc sydd yn mynychu ac fel arfer, mae’r oblygiadau hyn yn golygu bydd datrysiad hidlo mwy cynhwysfawr wedi’u gosod gyda chyfyngiadau ychwanegol i helpu amddiffyn defnyddwyr iau.

Yr un peth nad ydym yn ei glywed yn ddigon aml wrth drafod hidlo mewn gwleidyddiaeth neu yn y cyfryngau ydy’r ffaith mai dim ond rhan o’r ateb i gadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein ydyw. Mae trafodaethau am ddiogelwch ar-lein yn yr ysgol a gartref yn ffurfio’r elfen hanfodol arall. Mae dibyniaeth ar hidlo yn unig yn gallu achosi rhai, neu’r holl, faterion canlynol:

  • Mynediad cyfyngedig i adnoddau defnyddiol
  • Gwydnwch llai i risg ar-lein
  • Annog mynediad heb oruchwyliaeth mewn man arall
  • Rhwystr i ddysgu
  • Mynediad anesbonedig i ddelweddau anaddas

Yn ddiddorol, mae Ofsted wedi adrodd bod yr ysgolion sydd yn rhoi rhwystrau trwm ar fynediad i gynnwys yn darganfod bod hyn yn niweidiol i ymarfer e-Ddiogelwch. Mewn cyferbyniad, mae’r bobl broffesiynol sydd yn ystyried hidlo fel un rhan o’r pos yn darganfod bod hidlo yn:

  • Gallu darparu cofnodion adroddiadau ar gynnwys sydd wedi cael ei gyrchu, a’r potensial hefyd i ddarganfod yr unigolion hynny
  • Pan ddefnyddir yn effeithiol, gallai ffurfio rhan gadarnhaol o ymarfer a pholisi e-Ddiogelwch
  • Gall gael ei ddefnyddio fel teclyn adolygu effeithiol i helpu rhoi deallusrwydd i’ch sefydliad am y cynnwys sydd yn cael ei gyrchu ar leoliad

Wrth feddwl am hyn i gyd, gadewch i ni archwilio rhai o’r camsyniadau cyffredin am hidlo:

Mae hidlo yn atal plant rhag cael mynediad i ddelweddau anaddas ar beiriannau chwilio – Anwir

Dyma un o’r cwynion mwyaf cyffredin bydd darparwyr rhyngrwyd ysgolion yn ei dderbyn a gall atal hyn, i raddau, wrth ddefnyddio peiriant chwilio wedi’i chymedroli fel www.swiggle.org.uk. Y broblem gyda delweddau’r dyddiau hyn ydy nad yw’r cyfeiriadau gwe (URL’s) yn cynnwys geiriau sarhaus bob tro. Gan ystyried mai dyma fydd yr hidlydd yn edrych amdano, nid yw’n syndod bod brasluniau anaddas yn gallu ymddangos. Gadewch i ni weithio drwy hyn a meddwl am yr URL fel cod. Os yw’r cod yma yn cynnwys gair ‘sbardun’ neu linyn o lythrennau / rhifau e.e ‘porn’ neu ‘xxx’ yna mae’n debyg bydd yr hidlydd yn ei godi. Ond os yw’r cod yma yn llinyn o lythrennau / rhifau ar hap, yna nid fydd yr hidlydd yn ei adnabod o reidrwydd, ac felly bydd cynnwys anaddas yn gallu ymddangos.

Mae hidlo yn stopio seibrfwlio – Anwir

Mae hyn yn gamddealltwriaeth cyffredin. Mae angen i ni gofio nad y gwefannau sydd ar fai yma, ond yr ymddygiad sydd yn cael ei arddangos. Wrth geisio rhwystro mynediad i’r gwefannau ble mae pobl ifanc yn bod yn ymosodol, nid ydym yn ymateb i’r gwir broblem. Hefyd, os yw person ifanc eisiau mynediad i rywbeth, byddant yn darganfod ffordd arall i wneud hynny a dydy hyn ddim yn ddiogel o reidrwydd. Hefyd, mae’n werth nodi bod rhestr hidlo CAIC yr Internet Watch Foundation yn atal mynediad i gynnwys anghyfreithlon yn unig.

Nid fydd y pethau nad allant weld ar-lein yn gwneud niwed iddynt – Anwir

I’r gwrthwyneb. Ystyriwch hyn – fyddech chi’n disgwyl i Usain Bolt allu ennill y Tour de France heb dderbyn arweiniad gan hyfforddwr beicio i gychwyn? (Y jersi felen dwi’n ei feddwl nid yr un werdd!) Yn yr un ffordd a byddai Bolt yn teimlo’n anghyffyrddus gyda’r sefyllfa, mae plant hefyd yn mynd i mewn i dir diarth ar-lein. Maent angen deall yr ardaloedd gwahanol o beryglon ar-lein cyn wynebu’r rhain er mwyn dysgu gwydnwch. Rhai pethau i’w hystyried gallai’ch helpu i annog gwydnwch ydy:

  • Ystyried y camau fydd eich sefydliad yn ei gymryd os yw person ifanc yn dod ar draws rhywbeth anaddas ar-lein.
  • Os yw’r bobl ifanc yn eich gosodiad yn ymwybodol o beth i wneud os ydynt yn dod ar draws cynnwys anaddas.
  • Sut mae pobl ifanc yn eich gosodiad yn cael eu grymuso i adrodd unrhyw broblem ar-lein os ydynt yn codi.
  • Os oes gan y rhieni a’r gofalwyr reolyddion rhieniol wedi’i osod ar eu dyfeisiau gartref.

Mae hidlo yn amddiffyn diniweidrwydd plentyndod – Anwir

Gall hidlo helpu atal mynediad i’r cynnwys mwyaf eithafol ond dim ond rhan o’r datrysiad ydyw. Yr un hen neges ydyw, mae addysg yn allweddol ac mae pobl broffesiynol sydd yn gweithio gyda phlant efo rhan bwysig iawn i chwarae yn sicrhau bod plant yn deall pa gynnwys gall achosi gofid a beth i wneud os ydynt yn darganfod cynnwys fel hyn.

Os oes angen rhagor o gyngor neu gefnogaeth arnoch gydag unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud ag amlygiad i gynnwys eithafol ar-lein yn eich gosodiad, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Bobl Broffesiynol ar 0844 3814772 neu e-bostiwch helpline@saferinternet.org.uk