A new landmark e-safety project kicks off in Wales
Following Safer Internet Day 2014, The Welsh Government together with South West Grid for Learning (SWGfL), a partner within the UK Safer Internet Centre, are launching a 15-month project that will develop a variety of revolutionary online safety resources for Wales. Focusing on schools, the project aims to empower and equip school professionals by enhancing their general awareness and knowledge and providing them with tools and resources as well as sources of support on online safety.
The project has started with a snapshot survey, led by PromoCymru with Plymouth University that will assess online safety across Wales. The survey will look to capture the views, experiences and perceptions of children, parents and professionals working with children across the country. The open surveys can all be accessed at www.swgfl.org.uk/walessurvey until the end of March.
If you live in Wales and are a teacher, parent or a young person, do take part and have your say.
The resulting report will inform how the project progresses and will look to fill any gaps and address concerns.
Some of the highlights of the project include:
1) A Welsh version of the award-winning 360 degree safe tool (www.360safe.org.uk) which will enable schools in Wales to assess and improve their own online safety provision
2) A Digital Citizenship area on Hwb – the online portal for Welsh schools – with the latest safety information and advice, sources of support and training opportunities
3) A CPD programme that provides all professionals the opportunity for online safety professional development across Wales
4) A Digital Literacy Curriculum relevant to Welsh schools that supports teachers in embedding digital literacy across all ages within the curriculum
Welsh Government welcomed the project and Welsh Deputy Minister for Skills and Technology Ken Skates said: “Online Safety is a fundamental priority to the Welsh Government and this project is evidence that Wales is leading the way with helping to protect our children online”.
South West Grid for Learning is a charity providing internet connectivity and services to schools in South West England and is also the coordinating partner within the UK Safer Internet Centre. The SWGfL team of experts are the creators of a number of award winning tools and resources and have a national as well as an international reputation on internet safety.
For further information contact us on 0844 800 2382 or email esafety@swgfl.org.uk
Prosiect arloesol gyda’r nod o chwyldroi Diogelwch y Rhyngrwyd ledled Cymru
Yn dilyn Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, mae Llywodraeth Cymru ynghyd â’r South West Grid for Learning (SWGfL), yn lansio prosiect fydd yn datblygu amrywiaeth o adnoddau diogelwch ar-lein chwyldroadol ar gyfer Cymru. Yn canolbwyntio ar ysgolion, bydd y rhain yn cynnwys addasu’r offer hunan adolygu diogelwch ar-lein ‘360 degree safe’ sydd yn rhoi canllawiau i ysgolion allu amddiffyn eu hysgol a’u plant yn well ar-lein. Mae’r offer yma wedi ennill sawl gwobr.
Bydd y prosiect yn cychwyn gydag arolwg ciplun, wedi’i arwain gan ProMo-Cymru gyda Phrifysgol Plymouth fydd yn asesu diogelwch ar-lein ledled Cymru. Mae’r arolwg yn bwriadu dal barn, profiadau a chanfyddiadau plant, rhieni a rhai sy’n gweithio â phlant ar draws y wlad. Mae’r arolygon i gyd i’w darganfod ar www.swgfl.org.uk/walessurvey. Bydd yr arolwg yn cau ar 31ain Mawrth 2014.
Cymerwch ran a chael dweud eich dweud.
Bydd yr adroddiad sydd i ddilyn yn cyfarwyddo sut bydd y prosiect yn symud ymlaen ac yn edrych i lenwi unrhyw fylchau ac ymateb i unrhyw bryderon.
Mae’r prosiect yn bwriadu rhoi grym a chyfarparu pobl broffesiynol mewn ysgolion wrth wella eu hymwybyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol a’u darparu gydag offer ac adnoddau yn ogystal â ffynonellau cefnogaeth diogelwch ar-lein. Bydd y rhain yn cynnwys:
- Fersiwn Cymraeg o’r offer ‘360 degree safe’ (www.360safe.org.uk) fydd yn galluogi ysgolion yng Nghymru i asesu a gwella eu darpariaeth diogelwch ar-lein
- Adran Dinasyddiaeth Ddigidol ar Hwb – y porth ar-lein i ysgolion Cymru – gyda’r wybodaeth a chyngor diogelwch diweddaraf, ffynonellau cefnogol a chyfleoedd hyfforddi
- Rhaglen DPP sydd yn rhoi’r cyfle i holl bobl broffesiynol ledled Cymru gael datblygiad diogelwch ar-lein proffesiynol
- Cwricwlwm Llythrennedd Digidol perthnasol i ysgolion Cymru sydd yn cefnogi athrawon i fewnosod llythrennedd digidol i bob oedran o fewn y cwricwlwm.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Ken Skates: “Mae Diogelwch Ar-lein yn flaenoriaeth sylfaenol i Lywodraeth Cymru ac mae’r prosiect yma yn dystiolaeth bod Cymru yn arwain y ffordd mewn helpu amddiffyn ein plant ar-lein”
Ychwanegodd Ken Corish, Rheolwr Diogelwch Ar-lein yn SWGfL: “Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg a chael dweud eich dweud. Mae technoleg a’r Rhyngrwyd yn cynnig cyfle anhygoel i bawb ond yn enwedig i blant, ac mae helpu llywio’r peryglon a’r materion sydd yn bodoli ar-lein yn bwysig iawn”