Adnoddau i Rieni/Gofalwyr
Y thema eleni ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw ‘Gadewch i ni greu rhyngrwyd gwell gyda’n gilydd’. Mae’n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn ymglymedig a gwybodus hefyd, i sicrhau bod eu plant yn gallu gwneud y mwyaf o’r rhyngrwyd.
Mae’r UK Safer Internet Centre wedi creu pecyn sy’n cynnwys:
- cyflwyniad i rieni
- sgript i gyd-fynd â’r cyflwyniad
- cychwynwyr sgyrsiau i rieni
- llythyr i rieni i’w anfon adref
- poster i hyrwyddo’r sesiwn i rieni
- taflen ffeithiau i rieni â dolenni defnyddiol
- taflen wybodaeth i rieni
i’w gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi gynnal sesiwn i rieni yn eich ysgol neu sefydliad ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.